Amdanom ni

 

YN ÔL I'R MYNEGAI

Croeso i Feddygfa St Mark's Dee View 

Mae gan ein Practis dîm aml-ddisgyblaethol, sy'n golygu bod gennym ystod eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol i gwrdd â'ch anghenion iechyd. Gall y tîm aml-ddisgyblaethol gynnwys:

  • Meddygon
  • Uwch Ymarferwyr Clinigol yn cynnwys Nyrsys, Parafeddygon, Ffisiotherapyddion, Fferyllwyr ac Awdiolegwyr
  • Timau Cyflyrau Cronig medrus a Nyrsio Practis
  • A Llyw-wyr Gofal a thîm derbynfa a gweinyddu  

Rydym yn anelu at gynnig mynediad amserol at y gweithiwr proffesiynol mwyaf addas i gwrdd â'ch anghenion iechyd gan wneud hynny mewn dull cyfeillgar, proffesiynol, yn delio â'ch ymholiad yn effeithlon ac effeithiol.

Rydym yn trin pob claf yn gyfartal a heb ragfarn rhyw, tras neu anabledd.

Rheolir y Practis gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.