Oni fyddai’n dda pe baech yn gallu archebu eich meddyginiaeth reolaidd yn uniongyrchol o gysur eich cartref eich hun?

 

YN ÔL I'R MYNEGAI

 

Wel, mae gennyf newyddion da! Nawr gallwch ddefnyddio’r Ap GIG Cymru i archebu eich meddyginiaeth reolaidd, a threfnu, newid neu ganslo apwyntiadau gyda’ch Meddyg Teulu neu nyrs.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw lawrlwytho’r ap o’ch Google Store neu’r App store os oes gennych iPhone a chofrestru ar yr ap. Fel rhan o’r broses gofrestru bydd angen i chi brofi eich hunaniaeth. Dyma un o’r mesurau sydd gennym mewn lle i ddiogelu’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Mae manylion llawn am y broses ar gael o'r dderbynfa.

Rydym yn darparu’r wefan hon mewn cydweithrediad â GIG Cymru a’n cyflenwr systemau TG meddygon teulu.

 

Gwasanaethau sydd Ar Gael i Gleifion

Mae’r Gwasanaethau canlynol ar gael i bob claf cofrestredig.