Sut i wneud Cais am Ymweliad Cartref

 

YN ÔL I'R MYNEGAI

 

Neilltuir apwyntiadau cartref i'r sawl sydd wirioneddol yn gaeth i'r cartref neu ar gyfer sefyllfaoedd ble mae'r meddyg yn teimlo bod asesiad gartref yn angenrheidiol. Mae'r ymweliadau hyn ar ddisgresiwn y Meddyg. Os ydych yn teimlo bod angen ymweliad cartref, ffoniwch 01244 812003 cyn 11.00 os gwelwch yn dda.

Fel arall, os oes angen i chi siarad â Meddyg neu ein Uwch Ymarferydd Clinigol, ffoniwch cyn gynted ag y gallwch fel y gallant ddychwelyd eich galwad mor fuan â phosibl yn ystod y diwrnod gwaith. Gwnaiff ein derbynyddion ddim ond trosglwyddo galwad ffôn i'r meddyg yn ystod sesiwn glinigol mewn amgylchiadau brys neilltuol oherwydd, fel y gallwch werthfawrogi fel claf yn yr ystafell eich hun, mae tarfu cyson yn rhwystredig i'r claf a'r meddyg ac nid yw'n arwain at ymgynhoriad effeithlon llwyddiannus.

Home Visits Image