Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i'r safle hwn weithio. Hoffem hefyd osod cwcis dewisol fel y gallwn ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio a'i wella. Ni fyddwn yn gosod cwcis dewisol oni bai eich bod yn eu derbyn. Gallwch newid eich dewis ar unrhyw adeg drwy'r ddolen Gosodiadau cwcis ar waelod y dudalen.
Cwcis hanfodol
Mae angen y cwcis hyn er mwyn i'r safle weithio. Maent yn storio eich dewisiadau cwcis ac yn cadw eich sesiwn yn ddiogel. Maent wedi'u heithrio rhag caniatâd o dan Reoliad 6(4) PECR oherwydd eu bod yn hanfodol i ddarparu'r gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano.
Cwcis dewisol
Mae cwcis dewisol yn ein helpu i ddeall sut mae'r safle'n cael ei ddefnyddio ac yn darparu nodweddion ychwanegol megis dadansoddeg, offer hygyrchedd a chyfieithu. Dim ond os ydych chi'n eu derbyn y byddwn yn eu gosod.
Sut i archebu ail bresgripsiwn
Rhaid i gleifion sicrhau bod ceisiadau am feddyginiaeth wedi eu cyflwyno o leiaf 5 working days cyn i'w meddyginiaeth ddarfod.
Gwnawn bob ymdrech i ddelio â’ch eich cais o fewn yr amser hwn.
Gellir cyflwyno ceisiadau i:
- Ap GIG Cymru: Gofynnwch am fynediad drwy'r dderbynfa a rhoddir mynediad i chi archebu eich presgripsiynau ar-lein, mae hyn yn disodli'r system e-bost flaenorol o archebu presgripsiynau.
- Drwy'r post (gan amgáu amlen wedi ei hunan-gyfeirio a'i stampio).
- Mewn person gan ddefnyddio'r blwch ceisiadau am ail bresgripsiwn yn y practis.
- Gollwng yn eich Fferyllfa agosaf (mae hwn yn wasanaeth y mae rhai Fferyllfeydd yn ei ddarparu ond gall fod angen mwy na 5 diwrnod gweithio, gwiriwch os gwelwch yn dda gyda'ch Fferyllfa, mae'r gwasanaeth hwn y tu allan i'n hymrwymiad 5 diwrnod gweithio).
- Mae'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) ar fin dod (5fed o Rhagfyr 2025)
• Cyn bo hir bydd ein staff yn gallu anfon eich presgripsiwn yn
uniongyrchol i'ch fferyllfa yn electronig.
• Siaradwch â staff eich fferyllfa arferol a byddan nhw'n gwneud y
gweddill.
• Nid oes angen ffôn clyfar na chyfrifiadur arnoch i enwebu eich
fferyllfa.
• Mae hwn yn wasanaeth GIG Cymru sydd am ddim ac yn ddiogel. - Beth yw manteision y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig?
• Mae’n haws. Nid oes angen casglu’ch
presgripsiwn o’r feddygfa a mynd ag ef
i’r fferyllfa mwyach.
• Gellir olrhain presgripsiynau bob
amser, sy'n golygu na ellir eu colli.
• Mae’n ddiogel ac yn saff.
• Mae lleihau ein defnydd o bapur yn
dda i'r amgylchedd.
